Ein Her Rithwir o Land’s End i John O’Groats

Method4
Method4 - 06 Hydref 2021

Eleni, mae golwg ychydig yn wahanol wedi bod ar her elusennol flynyddol Method4. Gan ein bod ni wedi ein gwahanu gan y pandemig, bu’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd newydd o weithio gyda’n gilydd dros ein helusen, ond fe wnaethom ni’r gorau o’r cyfle i deithio pellter ar y cyd yn rhithwir a fyddai wedi bod yn llawer mwy brawychus yn wirioneddol! Ar ôl proses bleidleisio hir, dewisodd y tîm deithio’r pellter o Land’s End i John O’Groats – taith gerdded fach o 1407 cilometr!

Er bod y daith go iawn yn mynd â chi o Ddyfnaint drwy Wlad yr Haf, y Peak District a hyd at bwynt mwyaf gogleddol yr Alban, bu’n rhaid i ni deithio yr un pellter ar hyd ein ffyrdd a’n parciau lleol ein hunain yn lle hynny, gan fwynhau golygfeydd mwy cyfarwydd ar hyd y ffordd.

Yng ngoleuni’r pandemig, fe wnaethom ni ddewis codi arian tuag at Mind Cymru eleni, i helpu pobl ledled Cymru i lywio’r newidiadau enfawr sydd wedi effeithio cymaint ar bob un ohonom ni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae astudiaethau wedi darganfod bod canran yr oedolion a nododd lefelau clinigol arwyddocaol o ofid seicolegol wedi codi o 20.8% yn 2019 i 29.5% ym mis Ebrill 2020*, a gwaith elusennau fel Mind Cymru sy’n darparu’r adnoddau a’r gefnogaeth hanfodol i’n helpu ni i ymdopi yn ystod adegau caled fel y rhain.

Er mwyn cadw golwg ar ein cynnydd fel tîm, fe wnaethom ni redeg, cerdded neu feicio bob dydd, gan ddefnyddio ein Fitbits neu ffonau clyfar i gofnodi pa mor bell yr oeddem ni wedi teithio ac annog ein gilydd ar hyd y ffordd. Fe wnaethom ni ddechrau’n dawel fach, ond yna cyflymu wrth i’r mis fynd yn ei flaen, gan chwalu 36 cilometr ar y cyd mewn un diwrnod pan oedd hi’n ymddangos y gallem ni fod ar ei hôl hi o ran ein nod. Cymerodd ymdrech tîm gwych – ac ambell i arwr seiclo – i gyrraedd y diwedd, ond fe aethom ni ymhellach na’n nod, ac yn hytrach, fe wnaethom ni deithio 1,486.32km fel tîm!

Er mor anodd oedd y sefyllfa, fe wnaeth y newid mewn amgylchiadau gynnig un fantais i ni, oherwydd cawsom ni ddychwelyd i’r swyddfa ar gyfer danteithion o’r Alban yn syth ar ôl hynny. Er mor felys oedden nhw, nid oedden nhw gystal, o bell ffordd, â’r £690 y gwnaethom ei godi ar gyfer Mind Cymru, ac ni allem fod yn fwy balch o’n cyflawniad.

 

*O: Longitudinal changes in psychological distress in the UK from 2019 to September 2020 during the COVID-19 pandemic.