Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwasanaeth Rhagolwg Llifogydd y We

Gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i Method4 ddatblygu amnewidiad pwrpasol i wasanaeth rhagolygon tywydd ar-lein sy’n statig ac yn heneiddio, a ddefnyddir yn gyson gan swyddogion dyletswydd CNC.

Defnyddiasom dechnoleg .NET i greu system sy'n derbyn ac yn casglu llawer o ddata crai o dros 200 o leoliadau yng Nghymru. Caiff hyn ei gasglu, ei wirio o ran cywirdeb a’i ddadansoddi drwy raglen Deltares Delft-FEWS, sef rhaglen gwmwl gyntaf y byd. Wedyn, caiff ei fewnforio i Wasanaeth Rhagolygon y We, sy’n rhoi trosolwg cyflawn o’r rhagolygon i’r swyddogion dyletswydd, gan dynnu sylw at faterion tywydd posibl, a'u helpu i ganolbwyntio ar unrhyw benderfyniadau angenrheidiol. Ynghyd â mewnforio dogfennau gan asiantaethau trydydd parti’n rheolaidd, gan gynnwys y Swyddfa Dywydd, mae'r system yn gallu rhoi darlun cyflawn o beryglon llifogydd ledled Cymru drwy ryngwyneb sengl.

Cyrhaeddodd y prosiect hwn rownd derfynol Gwobrau Technoleg Cymru yn 2017 yng nghategori’r Mabwysiadwr Technoleg Gorau

HERIAU

  • System hynod feirniadol, y mae angen iddi fod ar gael yn gyson
  • Llawer iawn o ddata y mae angen eu prosesu ar unwaith
  • Gofyniad i gyflwyno ystod eang o ddata gan ddefnyddio’r dulliau mwyaf hygyrch sydd ar gael

TECHNOLEG

YR ATEB

  • Caiff ei phweru gan raglen gwmwl gyntaf y byd, Deltares Delft-FEWS, y mae asiantaethau arweiniol ledled y byd yn ymddiried ynddi
  • Caiff ei chynnal mewn amgylchedd adlamol, Microsoft Azure, sy’n seiliedig ar y cwmwl
  • Mae wedi ei hintegreiddio'n llawn â rhaglen fapio ArcGIS
  • Mae wedi cyfuno prosesu ar ochr y gweinydd a Javascript modiwlaidd cymhleth

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • Peiriant cynllun hyblyg, sy'n gallu gweithio gydag amrywiaeth eang o fathau o ddata
  • Ceir archif dreiglol o bob rhagolwg, sy’n caniatáu chwilio a dadansoddi patrymau data hanesyddol

Rydym yn chwarae rhan allweddol mewn cadw cymunedau Cymru yn ddiogel rhag llifogydd. Mae’r hyblygrwydd a’r perfformiad amser real, y mae’r Gwasanaeth Gwe ar gyfer Darogan yn eu cynnig, yn bwysig i ni er mwyn gallu darparu gwasanaeth ar gyfer darogan a rhybuddio rhag llifogydd i Gymru.

Andrew How, Arweinydd y Tîm Darogan Llifogydd