Sefydliad ar gyfer Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol

Porth Arloeswyr

Mae’r porth arloeswyr yn darparu man cydweithredu i grwpiau o gyflogwyr sy’n awyddus i ddatblygu prentisiaeth yn eu diwydiant i ddatblygu safonau galwedigaethol. Trwy weithio yn agos gyda’r Sefydliad ar gyfer Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol, mae Method4 wedi datblygu gwefan a phorth o ansawdd uchel, sy’n cynnwys yr Apprenticeship Builder i reoli’r broses o ddatblygu prentisiaethau newydd.

Mae prentisiaethau yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn gymwys mewn galwedigaeth a darparu’r gweithlu medrus sydd ei angen ar y diwydiant. Mae’r Sefydliad yn sicrhau bod prentisiaethau o safon uchel gyson yn ogystal â darparu proses i ddatblygu prentisiaethau newydd.

Mae’r Apprenticeship Builder yn caniatáu i’r cyflogwyr neu’r ‘arloeswyr’ ddatblygu safonau prentisiaethau newydd, gan reoli proses ddatblygu a chymeradwyo prentisiaeth, o’r cynnig cychwynnol yr holl ffordd i’r cyflawni.

Mae safonau prentisiaeth, ar amryw gamau eu datblygiad, yn cael eu cyhoeddi ar y wefan gyhoeddus, sy’n cynnwys cyfleuster chwilio cynhwysfawr.

HERIAU

  • trawsnewid digidol brosesau busnes cymhleth ar gyfer datblygu a chymeradwyo safonau prentisiaethau
  • datblygwr prentisiaeth sy’n hawdd ei ddefnyddio, i arwain defnyddwyr drwy’r broses o ddatblygu safonau prentisiaeth
  • integreiddio â system rheoli gwybodaeth y Sefydliad
  • llifau gwaith cymeradwyo a rheoli mynediad wedi ei seilio ar swyddogaeth

YR ATEB

  • gwefan wedi ei datblygu trwy ddefnyddio system rheoli cynnwys Umbraco
  • integreiddio â systemau eraill trwy ryngwyneb rhaglennu cymwysiadau gwe RESTful
  • Datblygwr Prentisiaeth pwrpasol wedi ei ddatblygu trwy ddefnyddio MVC.NET Microsoft
  • datblygiad aml-gyfnod wedi ei osod mewn sbrintiau hyblyg yn SCRUM
  • lletya cwmwl yn Microsoft Azure
  • cynlluniau integreiddio parhaus trwy Azure DevOps

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • mae’r porth yn caniatáu cydweithredu agos ar ddatblygu safonau prentisiaeth
  • mae’n sicrhau llif gwaith cyson ar gyfer datblygu safonau prentisiaeth
  • safonau prentisiaeth sy’n haws eu gweld ar wahanol gamau eu datblygiad
  • system effeithlon a all dyfu i ganiatáu twf yn y dyfodol mewn data a phrosesu
  • data mwy cyson a strwythuredig ar gyfer safonau prentisiaethau