Llywodraeth Cymru

Profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol

Cwblhaodd Method4 brosiect ar gyfer yr Adran Addysg a Sgiliau i gasglu data profion llythrennedd a rhifedd ar gyfer 260,000 o ddisgyblion o bron 2,000 o ysgolion. Cyflwynwyd y profion yn 2013 er mwyn cynnig gwell syniad o lawer i Lywodraeth Cymru o sut mae dysgwyr yn perfformio o’u cymharu â’u cyfoedion.

Y GWASANAETHAU A DDARPARWYD GENNYM

HERIAU

  • Galluogi pob ysgol yng Nghymru i lanlwytho eu data’n ddiogel dros y rhyngrwyd
  • Dilysu’r data yn erbyn cyfres gynhwysfawr o reolau dilysu a rhoi adborth i ysgolion ac awdurdodau lleol ar ganlyniadau’r gwaith dilysu
  • Cynhyrchu sgôr safonol ar gyfer pob disgybl yn seiliedig ar oedran, sgôr a’r papur prawf y gwnaeth ei sefyll
  • Darparu adroddiad ar gyfer pob disgybl, yn dangos ei ganlyniadau
  • Darparu adroddiad cryno lefel ysgol sy’n cymharu perfformiad ag ysgolion eraill yn yr awdurdod lleol, gweddill Cymru ac ysgolion â nodweddion tebyg

TECHNOLEG

YR ATEB

  • Casglwyd data’r profion llythrennedd a rhifedd gan ddefnyddio system DEWi, a ddatblygwyd ac a reolwyd gan Method4 ers 2006
  • Mae DEWi wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau e-lywodraeth a dyma’r brif system ar gyfer cyfnewid amrywiaeth eang o ddata rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • Casglwyd, dilyswyd a phroseswyd data mewn cyfnod o dair wythnos
  • Cynhyrchwyd adroddiad ar gyfer pob disgybl yng Nghymru yn dangos canlyniadau eu profion llythrennedd a rhifedd, sut maent yn cymharu â disgyblion eraill a’u cynnydd dros y tair blynedd diwethaf
  • Dadansoddiad manwl o ddata ar lefel yr ysgol, yr awdurdod lleol a Chymru