Cyfoeth Naturiol Cymru

System Cofnod Tynnu Dŵr

Roedd angen system ar Gyfoeth Naturiol Cymru yn lle'r swyddogaethau a arferai gael eu cynnal gan Gronfa Ddata Tynnu Dŵr a Thrwyddedu Cenedlaethol Asiantaeth yr Amgylchedd, a fyddai'n caniatáu iddynt dracio sefydliadau â thrwyddedau i dynnu dŵr, a chodi ffioedd arnynt.

Gwnaethom adeiladu system sy'n integreiddio â system CRM Microsoft Dynamic cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwybodaeth am ddeiliaid trwyddedau, y mae'n ofynnol iddynt gadw cofnod o'u gweithgareddau tynnu dŵr, a cheisio'r data hwn ganddynt. Gwnaethom hefyd adeiladu Gwasanaethau Adrodd Gweinydd SQL i gynhyrchu adroddiadau rheoli a Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) bilio pwrpasol, sy'n defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i hysbysu tîm bilio Cyfoeth Naturiol Cymru ar faint o dâl i'w godi ar bob sefydliad.

HERIAU

  • proses gymhleth o integreiddio â systemau presennol
  • storio, dilysu ac adrodd ar ddata

YR ATEB

  • cymhwysiad .NET i integreiddio â’r systemau SharePoint a CRM presennol
  • cronfa ddata SQL Cloud
  • API bilio pwrpasol
  • SQL Server Reporting Services

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • cwbl integredig â’r systemau presennol
  • system wedi’i chynnal ar y cwmwl
  • gwell prosesau adrodd