Hygyrchedd

Pam y mae'n bwysig

Daw’r we â mynediad digyffelyb inni at wasanaethau a gwybodaeth, ac mae'n hanfodol ein bod ni’n gallu cymryd mantais gyfartal ohono.

Mae sicrhau bod cynnwys y we yn hygyrch yn helpu i feithrin cynhwysiant cymdeithasol, mynediad cyfartal a chyfle cyfartal. Er enghraifft, efallai y bydd defnyddiwr dall neu rannol ddall angen mynediad at ddarllenydd sgrîn sy'n darllen cynnwys gwefan ar goedd. Mae angen ystyriaeth briodol felly ynghylch sut i ddiffinio cynnwys.

Mae hygyrchedd hefyd yn bwysig i ddefnyddwyr nad ydynt yn anabl. Mae gan ddefnyddwyr â phorwyr hŷn, eglurder arddangos isel, cyfyngiadau lliw a chyflymderau cysylltu arafach, eu gofynion hygyrchedd eu hunain.

Ein gwefan

Rydym wedi ceisio sicrhau bod gwefan Method4 mor hygyrch â phosibl. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch hyn neu unrhyw agwedd arall o’n gwefan, anfonwch neges e-bost i info@method4.co.uk.