Hysbysiad Preifatrwydd, Ceisiadau Swyddi

Pa ddata personol sy’n cael ei brosesu a pham?

Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd i Method4, bydd angen i ni brosesu eich data personol er mwyn rheoli ein proses recriwtio ac asesu eich addasrwydd ar gyfer y swydd yr ydych chi wedi ymgeisio amdani. Mae hyn yn cwynnwys eich cais cychwynnol, gohebiaeth bellach a data a gesglir drwy gyfweliadau a dulliau asesu eraill.
Mae ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data wedi’i diffinio fel buddiant dilys yn ôl Erthygl 6 y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Gall data categori arbennig, sy’n cynnwys hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth o Undeb Llafur, iechyd, bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol gael ei brosesu i fonitro ystadegau recriwtio ac i sicrhau ein bod ni’n gallu gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl, pe bai angen, cyn i’r gyflogaeth ddechrau. Yr amod categori arbennig ar gyfer prosesu yw (b) yn ôl Erthygl 9 GDPR, ac mae wedi’i ddiffinio fel ein rhwymedigaethau fel cyflogwr.

Pwy sydd â mynediad at fy nata?

Caiff eich data personol ei brosesu gan Method4 yn unig, ac ni fydd yn cael ei drosglwyddo i unrhyw drydydd partïon.

Am faint o amser y byddwch yn cadw fy nata?

Mae data personol yn cael ei gadw am dri mis ar ôl diwedd y broses recriwtio, er mwyn i ni allu ymateb i hawliadau cyfreithiol ac amddiffyn ein hunain yn eu herbyn.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • Cael gwybod bod eich data personol yn cael ei brosesu, sef sail yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn;
  • Mynediad, cewch ofyn am gopi o’r data personol yr ydym ni’n ei gadw;
  • Cywiro, os yw eich data personol yn anghywir, cewch ofyn i ni ei gywiro;
  • Dileu, cewch ofyn i ni ddileu eich manylion ar unrhyw adeg;
  • Cyfyngu ar y prosesu, mae gennych yr hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol. Os byddwch chi’n gwneud hyn, byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu eich cais ac yn cadw eich data at ddibenion amddiffyn hawliadau cyfreithiol yn unig;
  • Cludadwyedd data, os bydd angen copi arnoch o’r data yr ydym yn ei gadw, cewch dderbyn y data hwn ar fformat y gall peiriant ei ddarllen;
  • Gwrthwynebu, dim ond er mwyn ymdrin â’ch cais y byddwn ni’n prosesu eich data, felly os ydych yn gwrthwynebu, byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu eich cais ac yn cadw eich data at ddibenion amddiffyn hawliadau cyfreithiol yn unig;
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Manylion y cwmni

Method4
Imperial House,
12-14 Trade Street,
Caerdydd,
CF10 5DT

Cyswllt ar gyfer ymholiadau GDPR: info@method4.co.uk