Method4 yn cyflwyno yng Ngwobrau Technoleg Cymru
Nid yn aml y cewch chi gyfle i wisgo’n smart y dyddiau hyn, felly roedden ni wrth ein bodd ein bod ni nid yn unig wedi cael mynd i Wobrau Technoleg Cymru neithiwr, ond ein bod ni wedi bod yno i gyflwyno gwobr sy'n agos iawn at ein calonnau, Y Lle Technoleg Gorau i Weithio ynddo.
Ar ôl cyrraedd y rownd derfynol ein hunain yn flaenorol, rydyn ni’n gwybod faint o waith caled y bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni wedi'i wneud i sicrhau bod eu gweithleoedd yn lleoedd anhygoel i fod ynddynt. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw i gyd.