Ein Tîm

Rydym ni'n bobl datblygu. Rydym ni’n creu atebion meddalwedd clyfar a gwych, gan wneud iddo edrych yn hynod o hawdd.

TÎM SY'N GWEITHIO

Tîm Sy'n Gweithio

GWEITHIO I NI

Mae Caerdydd yn prysur ddod yn ganolbwynt technoleg, ac rydym ni yn y canol - dim ond taith fer o Orsaf Drenau Caerdydd Canolog. Rydym yn gwybod ein bod ni angen y bobl orau i greu’r dechnoleg orau. Dyna pam rydym wedi gwneud Method4 nid yn unig yn fan hyfryd i weithio ynddi, ond yn fan lle gall pawb wneud pethau anhygoel. Rydym ni’n cynnal digwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn, digwyddiad elusen flynyddol - ac rydym yn trefnu parti Nadolig eithaf anhygoel. Ydym ni’n mwynhau ein hunain? Ydym wir! Ydym ni’n gwneud gwahaniaeth? Yn sicr.

EIN GWERTHOEDD CRAIDD

Credwn fod ein gwerthoedd cyn bwysiced â’r ansawdd uchel a’r arloesedd gwasanaethau datblygu meddalwedd a ddarparwn:

GWRANDO
Rydym ni’n parchu ein cleientiaid. Rydym ni’n gwrando arnynt, ac yn eu cefnogi.

DIBYNADWY
Ein nod yw ennill a chadw ymddiriedolaeth ein cleientiaid. Rydym yn ffyddlon, ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau fod pob partneriaeth â chleient yn llwyddiant.

DYNOL
Mae ein dull yn agored, yn onest ac yn deg. Wrth gwrs, rydym ni'n dechnegol – ond rydym ni hefyd yn bobl gyfeillgar y mae hi’n hawdd siarad â nhw.

YSBRYDOLI
Rydym ni’n dylanwadu ar newid yn ein cleientiaid – ac rydym yn eu hysbrydoli nhw a’n gilydd gyda’n hangerdd am yr hyn a wnawn.

ARWAIN
Mae gennym uchelgais i dyfu, arloesi ac arwain y ffordd yn ein sector – ac i fynd â’n cleientiaid gyda ni i diriogaethau cyffrous newydd.

EIN GWELEDIGAETH

Rydym wrth ein boddau’n defnyddio technoleg i wneud pethau anhygoel.

Rydym yma i wneud synnwyr o gymhlethdod, i greu datrysiadau gwych sydd wedi eu cynllunio'n dda sy'n gwneud pethau yn haws, ac i ddarparu pob cymorth y gallwn.

 Gwnewch gais yma

Dim asiantaethau, os gwelwch yn dda

Rwyf yn edrych ymlaen bob dydd i weithio gyda thîm clòs sy’n fy annog i ddatblygu a meithrin y sgiliau yr wyf eu hangen i ffynnu fel datblygwr

Isaac Rapley, Datblygwr