Mae’r pecyn cymorth rhyngweithiol yn caniatáu mynediad i'r gronfa dystiolaeth lleihau troseddau, gan alluogi defnyddwyr i bwyso a mesur tystiolaeth ar effaith, cost a gweithrediad ymyraethau amrywiol. Gall defnyddwyr hidlo a didoli ymyraethau, a chael gafael ar ragor o fanylion a’u nodi fel eu bod wedi eu hamlygu wrth ddychwelyd i'r wefan yn ddiweddarach. Gan ddefnyddio fframwaith graddio a adnabyddir fel EMMIE, gall defnyddwyr grynhoi effaith pob ymyrraeth ar drosedd (Effect), sut y mae’n gweithio (Mechanism), ble y mae’n gweithio (Moderators), sut i’w gweithredu (Implementation) a chost yr ymyrraeth honno (Economic), gan ganiatáu i dystiolaeth gael ei defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol i ddylanwadu ar benderfyniadau ar gyfer lleihau troseddau.
Mae’r map lleihau troseddau rhyngweithiol yn dangos manylion ymchwil parhaus yn ymwneud â phlismona sy’n cael ei gynnal mewn prifysgolion a sefydliadau eraill ledled y DU. Mae’r map, y gellir ei chwyddo a’i lywio gan ddefnyddwyr, yn nodi lleoliadau’r sefydliadau a’u prosiectau ymchwil, y gellir eu hidlo wedyn yn ôl rhanbarth a phwnc yr ymchwil.
Mae’r Ganolfan What Works ar gael yn whatworks.college.police.uk.