Senedd Cymru, Welsh Parliament

Gwasanaethau digidol MySenedd

Nod rhaglen MySenedd yw helpu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddod yn senedd ddigidol o'r radd flaenaf yn y byd erbyn 2021, gan wneud gwybodaeth busnes y Cynulliad yn fwy hygyrch a rhoi profiad mwy dymunol i ddefnyddwyr. Y cyntaf o'r prosiectau hyn oedd prosiect y Swyddfa Gyflwyno a phrosiect TRO, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Method4. Maent yn cefnogi'r amcan o wneud gwasanaethau'n haws ac yn gyflymach ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, pobl Cymru a staff.

Mae gwasanaeth digidol y Swyddfa Gyflwyno yn galluogi Aelodau’r Cynulliad a staff cynorthwyol i gyflwyno eitemau busnes i’w hystyried yn ddwyieithog, megis cwestiynau i’r Gweinidogion, datganiadau a chynigion, drwy ryngwyneb syml ar unrhyw ddyfais megis ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur, sy’n cynnig hyblygrwydd llwyr. Mae’n bosibl monitro statws eitem yn hawdd wrth iddo fynd ar ei hynt drwy’r prosesau cyflwyno a chymeradwyo cyn y caiff ei gyhoeddi yn y pen draw yn y Cofnod ar-lein, lle y bydd ar gael i’r cyhoedd.

Mae system y Swyddfa Gyflwyno yn integreiddio’n ddidrafferth â system cwmwl newydd arall o’r enw TRO. Mae TRO yn galluogi tîm trawsgrifio'r Cynulliad, sy’n cynnwys 47 o aelodau, i gydweithio i drawsgrifio dadleuon yn y siambr ac mewn pwyllgorau, gan ddarparu cyfieithu integredig rhwng y Gymraeg a’r Saesneg a’u caniatáu i gyhoeddi Cofnod y Trafodion i’r Cofnod ar-lein ar unwaith.

Mae’r Cofnod (cofnod.cynulliad.cymru) yn tynnu busnes y Cynulliad i gyd at ei gilydd ar-lein gan ganiatáu i’r cyhoedd chwilio yn ôl allweddair, dyddiad neu Aelod Cynulliad, gan helpu i gyflawni argymhellion panel ymgynghori annibynnol, y Tasglu Newyddion Digidol, i wella tryloywder systemau’r Cynulliad.

Y rhain oedd y prosiectau cyntaf yn y Cynulliad i ddefnyddio egwyddorion Ystwyth wrth ddylunio, datblygu a chyflawni. Roedd defnyddwyr yn gweithio’n agos gyda Method4 i ddarparu gwasanaethau fesul dipyn, gan flaenoriaethu swyddogaethau â gwerth uchel, gan esgor ar ddatrysiad a oedd yn diwallu eu hanghenion ac yn hybu llwyddiant y gwasanaethau.

Mae gwasanaeth digidol MySenedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Technoleg Cymru 2018!

HERIAU

  • gofynion busnes a llifoedd data cymhleth
  • integreiddio rhwng sawl gwahanol system, gan gynnwys meddalwedd adnabod lleferydd
  • system sy’n hawdd ei defnyddio ac yn hygyrch
  • cyflwyno golwg gyson o wybodaeth busnes, a hynny yn fewnol ac i’r cyhoedd

YR ATEB

  • cymhwysiad ar-lein .NET, MVC pwrpasol yn seiliedig ar y cwmwl
  • wedi’i ddylunio gan ddefnyddio egwyddorion symudol yn gyntaf, gan gynnig profiad rhagorol i ddefnyddwyr ar amrywiaeth o ddyfeisiau
  • rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau pwrpasol i’w gwneud yn bosibl i adalw data gan systemau eraill
  • integreiddio nodweddion cyfieithu wedi eu hawtomeiddio
  • cronfa ddata Cwmwl SQL i storio data

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • Mae MySenedd yn helpu i hybu effeithlonrwydd mewnol, gan sicrhau y gall staff gyflawni tasgau gwerth uchel mewn busnes sydd â llawer o ofynion.
  • Mae TRO wedi’i ddangos i Seneddau eraill, drwy’r grŵp Defnyddiwr Rhyngseneddol, a chaiff ei ystyried yn feincnod ar gyfer systemau Cyfieithu.
  • Mae’r broses gyhoeddi yn symlach o lawer erbyn hyn, gan fod modd i’r holl drawsgrifwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd ar drawsgrifiad ragweld ac adolygu’r trawsgrifiad cyfan ar y sgrin a’i gyhoeddi’n uniongyrchol i’r wefan drwy bwyso botwm.
  • Mae gwasanaethau digidol MySenedd yn ei gwneud yn bosibl i lif y busnes trwy’r Cynulliad fod yn fwy effeithlon. Gall cwestiwn a gyflwynir gan Aelod y Cynulliad gael ei olrhain yn ôl i’r cyfarfod pan gafodd ei ofyn ac i’r ddadl ddilynol.
  • Mae modd yn awr cyflwyno sawl gwedd ar wybodaeth busnes y Cynulliad, drwy’r Cofnod ar-lein a fformatau data agored a ddarperir drwy wasanaethau digidol ychwanegol.
  • Gwasanaethau MySenedd yw’r gwasanaethau digidol cyntaf yn seiliedig ar y cwmwl i’w gweithredu gan y Cynulliad. Maent yn cynnig rheolaeth rwydd a’r posibilrwydd i gynyddu’r gwasanaethau a gynigir, yn ogystal â’i gwneud yn bosibl i fanteisio’n hawdd ar welliannau technolegol yn y dyfodol.

;