Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Gwefan gorfforaethol a mewnrwyd staff

Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn bwriadu defnyddio Microsoft SharePoint 2010 i wella nifer o brosesau busnes presennol. Roedd y Gwasanaeth yn chwilio am gymorth technegol SharePoint arbenigol er mwyn cefnogi’r broses.

Y GWASANAETHAU A DDARPARWYD GENNYM

Ar sail ddaearyddol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yw’r gwasanaeth mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Cydnabuwyd gan y gwasanaeth yr angen i sicrhau bod staff ar draws pob lleoliad wedi’u hymgysylltu’n llawn ag egwyddorion ac arferion sefydliadol ac roedd yn dymuno cael mewnrwyd ddeniadol a llawn gwybodaeth. Mae’n hanfodol bod y gwasanaeth yn cyfathrebu’n eglur ac yn gyflym gyda’r cyhoedd a hwn oedd y gofyniad craidd yn y briff ar gyfer y wefan. Gan weithio gyda thîm marchnata’r Gwasanaethau, adeiladwyd y wefan gennym gan ddefnyddio rhannau wedi’u teilwra ar y we er mwyn helpu i grwpio a darparu cynnwys cysylltiedig i’r cyhoedd.

HERIAU

  • Adeiladu gwefan ddwyieithog
  • Adeiladu platfform mewnrwyd
  • Darparu cymorth parhaus
  • Trosglwyddo gwybodaeth i ddefnyddwyr
  • Annog Defnyddwyr i’w Mabwysiadu

YR ATEB

  • Microsoft SharePoint 2010 gyda phecyn Iaith Gymraeg
  • Datblygu gwefan gyhoeddi gweledol gyfoethog
  • Annog ymgysylltiad â’r safle mewnrwyd trwy gystadleuaeth dod o hyd i logo

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • Gwefan SharePoint 2010 wedi’i chynllunio’n dda a gweledol gyfoethog
  • Templedi tudalen hyblyg a Rhannau Gwe y gellir eu ffurfweddu gan alluogi adran TG y Gwasanaeth i adeiladu a chefnogi’r safle’n rhwydd
  • Profiad cyson i ddefnyddwyr ar draws y Fewnrwyd a’r wefan gyhoeddus