Integreiddio'r System
Weithiau mae gan ein cleientiaid systemau ar waith yn barod i fynd i'r afael â rhai o'u tasgau busnes hanfodol, ac weithiau maent wedi dod o hyd i systemau oddi ar y silff sy'n gwneud rhan o'r hyn y mae ei angen arnynt.
Un o'n prif gryfderau yw ein gallu i weithio gyda systemau presennol gan ddatblygu elfennau newydd ochr yn ochr â nhw yn rhan o bensaernïaeth sengl a chynhwysfawr.
Mae ein datrysiadau personol wedi eu hintegredig i systemau allweddol megis CRM, Office 365, SharePoint, Umbraco, rheoli asedau a Microsoft Azure. Mewn llawer o achosion, rydym wedi adeiladu rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau personol neu wasanaethau ar y we i alluogi cyfathrebu drwy JSON, XML a SOAP.
Rydym hefyd yn hynod fedrus wrth integreiddio offer trydydd parti o fewn systemau pwrpasol. Mae'r rhain yn cynnwys golygyddion testun cyfoethog, trin dogfennau (PDF a Word), gwirio sillafu ar y we, darllenwyr sgrin, technoleg adnabod llais a gwasanaethau cyfieithu.