ANDROID AND IOS
Mae pawb yn dymuno gwneud y gorau o dechnoleg symudol. Eich cwsmeriaid, eich gweithwyr – a chithau hefyd.
P’un ag ydych yn dymuno optimeiddio gwefannau ac apiau sydd eisoes yn bodoli, neu greu rhai newydd, ble ydych chi’n dechrau? Mae cymaint o wneuthurwyr, dyfeisiau ac amgylcheddau gweithredu i’w cefnogi, ac mae’r farchnad yn symud ac yn tyfu’n gyson.
Gallwn ni wneud yn siŵr eich bod nid yn unig yn gweithredu’r dechnoleg ddiweddaraf ond yn mynd ar y blaen hefyd. Mae gennym brofiad hir o ddatblygu atebion iPhone ac Android, a byddwn yn gwylio ac yn ymateb i ddatblygiadau gyda strategaeth symudol sydd wedi ei haddasu ar gyfer anghenion presennol eich busnes ac anghenion y dyfodol. Ac unwaith y bydd y strategaeth honno ar waith, byddwn yn adeiladu arni ac yn creu gwefannau a theclynnau symudol effeithiol, atyniadol a grymus sy'n darparu swyddogaeth drawiadol i chi ac i'ch defnyddwyr.