MICROSOFT 365
Gall ein tîm talentog o arbenigwyr fudo, awtomeiddio, a symleiddio data a phrosesau eich busnes gan ddefnyddio'r cynhyrchion a'r gwasanaethau Microsoft 365 gorau oll. Rydym yn adeiladu atebion wedi'u teilwra i'ch gofynion busnes mewn pedwar cam hawdd:
Dadansoddi
- Bydd ein tîm yn eich helpu i brosesu a deall eich data, gan ddefnyddio gweithdai personol a/neu o bell i wneud yn siŵr ein bod yn adeiladu ateb sy'n gweithio i chi.
- Byddwn yn creu adroddiadau Power BI i lanhau a threfnu eich data cyn mudo i SharePoint Online.
Mudo
- Rydym yn defnyddio meddalwedd mudo o’r radd flaenaf gan ShareGate a'n hoffer awtomeiddio ein hunain i fudo symiau enfawr o ddata yn ddiogel.
- Rydym yn symud eich cynnwys yn awtomatig i'ch saernïaeth wybodaeth, wrth ychwanegu metadata i helpu eich defnyddwyr terfynol.
Awtomatiaeth
- Rydym yn awtomeiddio’r gwefannau SharePoint a ddarperir gennych, gan roi gwefannau i chi sydd wedi'u teilwra i'ch gofynion busnes a'ch brand ac, yn bwysig ddigon, yn caniatáu i'ch defnyddwyr greu gwefannau cyson newydd yn annibynnol.
- Gellir ychwanegu polisïau cadw data, gan sicrhau bod eich sefydliad yn cydymffurfio â'ch gofynion statudol neu reoliadol.
- Rydym yn adeiladu rhyngwynebau hawdd eu defnyddio sy'n eich galluogi i gynnal eich saernïaeth wybodaeth wrth i'ch busnes dyfu.
- Gall y gyfres gyflym ac effeithiol Power Apps ddisodli systemau etifeddiaeth neu gyflawni heriau busnes newydd.
- Gallwn eich helpu i awtomeiddio tasgau sy'n cymryd llawer o amser gyda Power Automate, gan ryddhau eich tîm i ymgymryd â thasgau mwy heriol.
Adrodd
- Prosesu a thrawsnewid eich data yn wybodaeth ddefnyddiol sy'n grymuso'ch tîm.
- Dangosfyrddau ac adroddiadau Power BI wedi’u haddasu i'ch helpu chi i ddeall eich data, gan wneud penderfyniadau busnes hanfodol yn haws.