Sharepoint
Wedi'i deilwra, allan o'r bocs, neu gymysgedd o'r ddau – rydym yn datblygu ac yn adeiladu mewnrwydi, allrwydi a chymwysiadau busnes. Gallwn hefyd helpu i fudo gwefannau corfforaethol i lwyfannau newydd.
Mae ein profiad cymwysiadau SharePoint yn cwmpasu holl brif gyhoeddiadau y platfform dros y deng mlynedd diwethaf, ac mae ein gwybodaeth fanwl yn golygu y gallwn eich helpu gyda systemau darparu, awtomeiddio a rhannau gwe pwrpasol i gyflawni eich gofynion.
Os ydych chi'n bwriadu symud i SharePoint Online, mae ein tîm yn brofiadol mewn adeiladu datrysiadau rheoli dogfennau yn y cwmwl, yn ogystal â mudo llawer iawn o ddata o hen fersiynau o SharePoint a rhannu ffeiliau.
Gallwn ddarparu hyfforddiant a mentora i hwyluso mabwysiadu SharePoint yn llyfn yn eich sefydliad.