Rydyn ni’n noddwr Sefydliad Umbraco y DU!

Sarah Howarth
Sarah Howarth - 28 Medi 2023

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod ni, erbyn hyn, yn noddwr Sefydliad Umbraco y DU, sy'n ceisio cefnogi cymuned Umbraco y DU.

Er bod Umbraco wedi dechrau yn Nenmarc, mae cymuned fwyaf Umbraco yn y byd yma yn y DU gyda 13 grŵp cwrdd am sgwrs, 2 gynhadledd a 33 MVP (Pobl Mwyaf Gwerthfawr) Umbraco. Rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn gallu dangos ein cefnogaeth barhaus i'r rhwydwaith hwn.