Trioleg Elusen Method4
Ym mis Awst eleni fe wnaethom ni gychwyn ar ddigwyddiad codi arian epig arall. Mae dewis dyddiad ar gyfer digwyddiad dros fisoedd yr haf bob amser yn anodd oherwydd gwyliau'r haf. Felly y tro hwn, yn hytrach nag un digwyddiad mawr, fe wnaethom benderfynu ar dri digwyddiad llai yn ystod y mis, er mwyn roi cyfle i bawb gymryd rhan, ac felly ganwyd ein trioleg elusen!
Gwnaethom ddewis Ymchwil Canser Cymru fel yr elusen i elwa ar y drioleg. Mae bron pawb yn y tîm wedi cael eu cyffwrdd mewn rhyw ffordd gan y dinistr y mae canser yn ei achosi, felly roedd yn achos yr oedd pawb yn awyddus i’w gefnogi a chodi cymaint o arian â phosibl.
Fe ddechreuom ni gydag egwyl te prynhawn fel timau dros gyfnod o wythnos, a oedd yn gyfle hyfryd i'r timau gael sgwrs dros de a chacen wrth godi arian. Yna, fe wnaethom gynnal parti pizza amser cinio lle gallai'r cwmni cyfan ddod at ei gilydd a chymysgu. Gwnaethom orffen ein trioleg gyda chwis ar-lein difyr iawn, lle y llwyddodd ac y methodd pobl yn rownd gronnol y showstopper! Gwnaeth Method4 ariannu pob digwyddiad a gwnaeth y timau rhoi cyfraniad bach i gymryd rhan. Fe wnaethon nhw’n wych a chodi £586.