CBAC / EDUQAS

Gwefan gorfforaethol

CBAC yw corff gwobrwyo mwyaf Cymru, ac mae’n ddarparwr blaenllaw yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae felly’n darparu cymwysterau i filoedd o fyfyrwyr bob blwyddyn. Maen nhw’n rheoli tair gwefan gyhoeddus, un ar gyfer pob un o’u brandiau (WJEC, CBAC ac Eduqas); maen nhw’n darparu cymorth a chyngor i rieni, athrawon a myfyrwyr.

Roedden nhw angen gwefan newydd a fyddai’n symleiddio eu prosesau golygu cynnwys ar draws y gwefannau, yn ogystal â gwella ymarferoldeb i ddefnyddwyr a’u hanghenion amrywiol. Byddai angen i adeiladwaith y wefan fod yn gymhleth, gan fod â’r gallu i gadw a diweddaru miloedd o ddogfennau adnoddau addysgol, a’r sefydlogrwydd i ymdrin â thraffig gwefan trwm sy’n dod yn ystod cyfnodau prysur ar adeg canlyniadau ac arholiadau.

Fe wnaethom ni adeiladu gwefan newydd iddyn nhw yn Umbraco 8, gyda nodweddion wedi’u teilwra i ddiwallu eu hanghenion unigryw.

HERIAU

  • creu un rhyngwyneb canolog i olygyddion cynnwys ei ddiweddaru, ond cyflwyno tair gwefan gyhoeddus; pob un â’i edrychiad, teimlad ac enw parth ei hun
  • ymarferoldeb dwyieithog
  • sefydlogrwydd i ymdopi â chynnydd sydyn yn nhraffig y wefan
  • mudo dros 19,000 o ddogfennau adnoddau addysgol o’r hen wefan
  • y gallu i drosglwyddo hen bapurau arholiad o’u systemau mewnol i’r wefan ar raddfa fawr pan fo angen
  • caniatáu i ddefnyddwyr chwilio cymwysterau ac ychwanegu diweddariadau ar gyfer cymwysterau penodol
  • ailgyfeirio defnyddwyr o dudalennau cynnwys ar yr hen wefan i’r dudalen gyfatebol ar yr amgylchedd newydd

YR ATEB

  • mae cefnogaeth amlieithog Umbraco 8 yn galluogi golygyddion cynnwys i gynhyrchu a chyhoeddi cynnwys yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd, ac yn caniatáu i ddefnyddwyr newid rhwng y ddau
  • mae Storfa Blob MS Azure wedi’i chysylltu’n uniongyrchol â swyddfa gefn Umbraco; sy’n rhoi mynediad rhwydd i olygyddion cynnwys i ychwanegu, dileu a golygu adnoddau addysgol, gan gynnal perfformiad uchel y wefan a sicrhau’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion
  • mae cyd-bwyswr llwyth gwefan Microsoft Azure yn cydbwyso’r wefan i mewn ac allan yn awtomatig, i addasu ar gyfer cyfnodau o draffig uchel neu isel
  • mae’r rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau pwrpasol yn caniatáu i dîm CBAC uwchlwytho hen bapurau arholiad o bell yn awtomatig
  • mae tagio cynnwys y tu ôl i’r llenni yn galluogi swyddogaeth chwilio
  • mae Umbraco Forms yn ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr deilwra’r diweddariadau y maen nhw’n eu derbyn
  • mae dyluniad Rhyngwyneb Defnyddwyr yn caniatáu i olygyddion ychwanegu atgyfeiriadau HTTP yn gyflym i gynnwys sydd wedi’i symud

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • llai o weinyddu: mae’r system symlach yn caniatáu i olygyddion cynnwys reoli tair gwefan ar yr un pryd ac mae’r rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau yn caniatáu uwchlwytho hen bapurau arholiad yn rhwydd
  • y gallu i ehangu a chynnal y wefan yn fewnol; mae cydrannau tudalen ail-ddefnyddiadwy, a adeiladwyd ymlaen llaw, yn caniatáu i olygyddion cynnwys gynhyrchu cynnwys cyson ar gyfer y brand newydd heb ganllawiau technegol
  • defnydd effeithlon o adnoddau wrth gydbwyso llwyth: mae’n arbed arian yn yr hirdymor ond yn gallu ymdrin â lefelau uchel o draffig gwefan pan fo angen
  • hawdd ei ddefnyddio; gall myfyrwyr, rhieni ac athrawon lywio a chwilio yn rhwydd, yn ogystal â gallu teilwra eu diweddariadau a newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg