Cymwysterau Cymru

Gwefan

Datblygodd Method4 wefan bwrpasol ar gyfer y sefydliad newydd, Cymwysterau Cymru.

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw Cymwysterau Cymru, a sefydlwyd drwy Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015. Mae’r corff yn rheoleiddio cymwysterau nad ydynt yn raddau a’r system gymwysterau yng Nghymru.

HERIAU

  • dylunio a datblygu gwefan broffesiynol a chyfoes ar gyfer sefydliad newydd sbon
  • deall y mathau o ddefnyddwyr a fyddai’n ymweld â’r wefan a’r wybodaeth y byddai ei hangen arnynt
  • dod â chynnwys o ffynonellau amryfal ynghyd i greu gwefan gydlynol a deniadol

YR ATEB

  • ymgynghoriadau a gweithdai gydag aelodau staff Cymwysterau Cymru dros nifer o wythnosau wedi ein helpu i bennu pwy fyddai’n ymweld â’r wefan a pham
  • cyflawnwyd y broses o fapio taith y defnyddiwr ac o ganlyniad i hyn roeddem yn gallu creu strwythur yr wybodaeth ar y wefan ynghyd â map o’r wefan
  • pan ddiffiniwyd strwythur yr wybodaeth ar y wefan, roeddem yn gallu cynhyrchu fframiau i’r tudalennau a gwneud gwaith dylunio graffeg i ddiffinio golwg a naws y wefan
  • datblygwyd y wefan gan ddefnyddio’r fethodoleg Agile SCRUM
  • datblygu gwefan bwrpasol wedi ei llunio ar system rheoli cynnwys Umbraco

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • system rheoli cynnwys Umbraco yn galluogi golygwyr y cynnwys yn Cymwysterau Cymru i reoli’r cynnwys yn rhwydd
  • gall Cymwysterau Cymru greu tag o’r cynnwys gyda metadata, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr y wefan chwilio am ddogfennau yn ôl categorïau gan ddefnyddio’r porwr pwrpasol
  • dyluniad y wefan yn rhoi ystyriaeth i ddefnyddwyr gwahanol y wefan drwy gael adrannau gwahanol i ddysgwyr a rheolyddion
  • gwefan gyfan yn ddwyieithog