Profiad Y Defnyddiwr
P'un ag ydym yn dylunio gwefan bwrpasol neu raglen we gymhleth, neu'n adeiladu o amgylch system reoli cynnwys adnabyddus megis Umbraco neu SharePoint, mae ein dull gweithredu'n ymwneud â diwallu dau angen: dweud wrth bobl yr hyn yr hoffech iddynt ei wybod, ond gwneud hynny mewn ffordd sy'n gweddu orau iddyn nhw a'u llesiant.
Mae'n ymwneud â chreu profiad gwych i ddefnyddwyr. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cymryd amser i ddeall eich ymwelwyr, i symleiddio'r prosesau busnes y maent yn eu defnyddio yn eich ap gwe, a dilyn y llwybrau y maent yn debygol o fod eisiau eu cymryd drwy eich gwefan. Byddwn yn eich helpu i gynllunio'r llwybr y bydd arnynt angen ei gymryd – a'r stori y maent yn dymuno ei chlywed.