HERIAU
-
darparu gwefan newydd sbon a modern i’r Senedd wedi’i datblygu o’r gwaelod i fyny
-
mae’n rhaid bod gan Bensaernïaeth Wybodaeth y safle newydd anghenion defnyddwyr y wefan wedi’u gosod yn gadarn wrth ei graidd, a’i bod wedi’i strwythuro o amgylch eu hanghenion a disgwyliadau yn hytrach na’i bod wedi’i seilio ar strwythur y sefydliad
-
rhaid i'r wefan ar ei newydd wedd gynnal golwg a naws gyson ledled y safle fel ni waeth ar ba dudalen y mae’r defnyddiwr, mae’n ymwybodol ei fod dal o fewn ystâd sylfaenol y Senedd. Rhaid iddi wneud hyn gan hefyd ystyried a diwallu gwahanol anghenion amrywiaeth eang o ddefnyddwyr
-
rhaid i olwg a naws y wefan gyd-fynd yn glir ac yn gyson â chanllaw Brand a Thôn Llais presennol y Senedd. Rhaid i ddyluniad newydd y safle fod yn ffres, yn lân, yn syml, yn gyfoes, yn ddeniadol ac yn hygyrch
-
oherwydd maint a graddfa'r data presennol, roedd y mudo'n arbennig o heriol, gan ofyn am fudo cannoedd o filoedd o ddogfennau a thudalennau, gan gynnwys rheoli cysylltiadau'n effeithiol
-
amgylchedd awduro dwyieithog ac offer golygu cynnwys effeithiol ac effeithlon
TECHNOLEG