Senedd Cymru, Welsh Parliament

Dylunio profiad defnyddwyr ac adeiladu gwefannau

Mae’r Senedd yn Senedd genedlaethol fodern, flaengar, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn uchelgeisiau'r Llywydd i'r Senedd osod meincnod ar gyfer deddfwrfeydd eraill ledled y byd. Mae'n hanfodol bod y wefan yn adlewyrchu'r uchelgeisiau hyn.

Yn unol â strategaeth y Senedd i foderneiddio'r gwaith o gynhyrchu, rheoli a defnyddio gwybodaeth fusnes y Senedd gofynnwyd i Method4 ddylunio a datblygu gwefan newydd y Senedd.

Trefnodd Method4 weithgareddau Profiad Defnyddwyr (UX) gyda rhanddeiliaid allweddol yn ystod adeg ddarganfod estynedig. Roedd hyn yn cynnwys datblygu persona, mapio taith defnyddwyr, datblygu pensaernïaeth wybodaeth, profi gan ddefnyddwyr a gweithgareddau dylunio gydag amrywiaeth o adnoddau a thechnegau.

Gan weithio’n agos gyda’r Senedd, gweithiodd un o dimau datblygu hyblyg Method4 mewn sbrintiau yn defnyddio’r fframwaith Scrum gan ganiatáu proses ddatblygu iteru-gynyddol yn galluogi amlygrwydd cynnar ac adborth parhaus drwy gydol y broses o ddatblygu’r wefan.

HERIAU

  • darparu gwefan newydd sbon a modern i’r Senedd wedi’i datblygu o’r gwaelod i fyny
  • mae’n rhaid bod gan Bensaernïaeth Wybodaeth y safle newydd anghenion defnyddwyr y wefan wedi’u gosod yn gadarn wrth ei graidd, a’i bod wedi’i strwythuro o amgylch eu hanghenion a disgwyliadau yn hytrach na’i bod wedi’i seilio ar strwythur y sefydliad
  • rhaid i'r wefan ar ei newydd wedd gynnal golwg a naws gyson ledled y safle fel ni waeth ar ba dudalen y mae’r defnyddiwr, mae’n ymwybodol ei fod dal o fewn ystâd sylfaenol y Senedd. Rhaid iddi wneud hyn gan hefyd ystyried a diwallu gwahanol anghenion amrywiaeth eang o ddefnyddwyr
  • rhaid i olwg a naws y wefan gyd-fynd yn glir ac yn gyson â chanllaw Brand a Thôn Llais presennol y Senedd. Rhaid i ddyluniad newydd y safle fod yn ffres, yn lân, yn syml, yn gyfoes, yn ddeniadol ac yn hygyrch
  • oherwydd maint a graddfa'r data presennol, roedd y mudo'n arbennig o heriol, gan ofyn am fudo cannoedd o filoedd o ddogfennau a thudalennau, gan gynnwys rheoli cysylltiadau'n effeithiol
  • amgylchedd awduro dwyieithog ac offer golygu cynnwys effeithiol ac effeithlon

YR ATEB

  • mae'r wefan wedi'i datblygu gan ddefnyddio Umbraco 8 a chaiff ei chynnal yn y cwmwl ym Microsoft Azure, gan ddefnyddio gwasanaethau apiau Azure, storio Azure, porth Ap a chronfeydd data SQL yn y cwmwl i ddarparu amgylchedd diogel sy’n gytbwys o ran llwyth
  • mae'r rheolwyr cynnwys canolog yn darparu cymorth ar gyfer eitemau cynnwys y gellir ei ailddefnyddio, gan gynnwys delweddau, eitemau newyddion, blogiau, fideos, a chynnwys wedi'i fewnblannu, megis Senedd.tv
  • integreiddio â Chwiliad Gwybyddol Microsoft Azure i ddarparu galluoedd chwilio uwch ac effeithlon sy'n cyfuno canlyniadau chwilio’r wefan â'r rhai o systemau busnes trydydd parti
  • gwnaethom ddatblygu sawl ap cynnwys Umbraco; i fewnforio data yn awtomatig ac â llaw o systemau busnes allweddol, yn ogystal â darparu gwybodaeth i olygyddion cynnwys ynghylch oedran darllen ac amser darllen eu cynnwys
  • yn gwneud bod mwy na 100,000 o ddogfennau ar gael yn ymwneud â busnes y Senedd megis adroddiadau pwyllgor, papurau ymchwil, dogfennau a osodwyd, a phapurau wedi’u hadneuo
  • integreiddio â systemau trydydd parti gan gynnwys system ddeisebau, system reoli busnes (modern.gov) a'r cofnod (rhaglen bwrpasol a ddatblygwyd gan Method4 i ddarparu cofnodion tryloyw o holl fusnes y Senedd megis cyfarfodydd, dadleuon a thrawsgrifiadau pwyllgorau)
  • dwyieithog, gan gynnwys swyddfa gefn Umbraco gwbl ddwyieithog. Ers hynny, mae cyfieithiadau Cymraeg y swyddfa gefn a weithredwyd gan Method4 wedi'u gwneud yn rhan o System Rheoli Craidd Umbraco
  • mudo safonau micro WordPress a SharePoint o’r gorffennol i weithrediadau Umbraco cyfoes a chyson

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • mae'r wefan yn rhagorol o ran ei Phrofiad Defnyddiwr a'i Rhyngwyneb Defnyddiwr. Gan ddefnyddio safonau ac arferion diweddaraf UX, mae'r safle newydd yn darparu profiad syml sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sy'n ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr ddod o hyd i wybodaeth ynghyd â gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'u maes diddordeb ac sy'n berthnasol iddo
  • mae’r rhyngwyneb defnyddwyr yn darparu llywio clir ac yn galluogi bod y cynnwys yn ganolog drwy gyflwyno gwybodaeth bwysig mewn ffordd gref, glir a darllenadwy
  • gall defnyddwyr ymchwilio'n ddyfnach i'r wefan ac o'i hamgylch, fel eu bod yn darganfod gwybodaeth newydd, yn dysgu mwy am y Senedd, ac yn defnyddio a rhannu'r cynnwys
  • mae'r wefan yn darparu profiad eithriadol i ddefnyddwyr drwy ddyfais o’u dewis, gyda phrofiad defnyddwyr cyson hyd a lled is-setiau a safleoedd micro o fewn ecosystem un wefan
  • mae gan olygyddion cynnwys gyfres hyblyg o dempledi a chydrannau i ddatblygu a chyhoeddi tudalennau'n hawdd ac yn gyson ledled y prif safle a'r is-safleoedd, gyda rheolaeth fanwl dros arddull o fewn safleoedd micro

Drwy gydol y broses, gweithiodd Method4 gyda ni i ganolbwyntio ar gyflawni ein prif amcanion, a defnyddion nhw ymarferoldeb Umbraco a'u sgiliau datblygu yn ddyfeisgar i gyflawni ein holl ofynion sylfaenol yn llwyddiannus.

John Brassington, Uwch Reolwr Prosiectau a Newid, Senedd Cymru