Darparu Gwasanaethau Digidol
Dylai pob prosiect gael ei lywio gan yr achos busnes. Dyma yw ein prif ffocws – oherwydd sut arall y bydd unrhyw ateb yn eich helpu i gyflawni eich targedau strategol?
Rydym ni hefyd yn hyblyg. Mae ein timau datblygu Agile wedi eu hardystio ar gyfer defnydd MRSC a fframwaith Scrum i ddatblygu a chyflwyno systemau gwerthfawr sydd wedi eu haddasu ar gyfer eich anghenion. Mae gennym reolwyr prosiect hefyd sy'n ymarferwyr ag achrediadau PRINCE2. Yn gryno, rydym yn ymfalchïo mewn rheoli prosiectau'n dda. Rydym yn drwyadl, rydym yn cymryd gofal, rydym yn lleihau risg, ac rydym yn defnyddio ein profiad i gyflwyno pethau yn brydlon ac o fewn y gyllideb. Rydyn ni'n bobl greadigol – ond rydym hefyd yn ymarferol.