Datblygu Apiau
Mae'r ffordd yr ydych yn gwneud pethau yn unigryw – a dyna pam y byddwn yn gwrando ar eich anghenion ac yn gweithio'n agos gyda chi i sicrhau fod pob ap wedi ei ddatblygu'n arbennig.
Byddwn yn defnyddio ein profiad helaeth o'r byd go iawn i ddewis y dechnoleg orau sydd fwyaf priodol i wneud y gwaith, a bydd y prosiect yn cael ei reoli a'i brofi i'r safon uchaf yn ystod pob cam.
I gyrraedd yno, rydym yn defnyddio Scrum, sef fframwaith datblygu sy'n caniatáu inni wneud cynnydd mewn camau bach, ac mae hynny'n galluogi pawb i weld sut y mae pethau'n mynd.
P'un ag ydych yn fusnes bach neu'n fenter fawr, rydym ni'n ymfalchïo mewn cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb. Rydym hefyd yn ymfalchïo yn ein dull o ymdrin â diogelwch: nid ydym byth yn anghofio pwysigrwydd eich data.